{marwnad Llywelyn ap Gylym Mae yn yr awdl yma bennillion yn
eisiau}
1 Dyved a somed am symvd mowredd
2 am eryr bro rhud
3 doe wiwdymp yn dywedud
4 haeddai vawl a heddiw'n vud
5 Cynn hyn Lewelyn olud di[ ]ogaeth
6 dan trigo nis caud
7 agwrdd uydd y gerdd oeddud
8 egor i mi y gwr mud
17 gwawr nef a llawr alldud yw hwnn
18 hyn oedd ddygn nas clywud
19 gwae vi geli bob golud
20 gwael vynghyflwr am wr mud
9 pryd glwys prud dadwys prowdyd praff owdur
10 profwydair balch sydd drud
11 prif dda wawd prawf ddywedud
12 prydydd ieithydd na vydd vud
13 [418] vyngheinllyw divyw deifr helcud baham
14 byhwman deigr neud glud
15 vynghanllaw i'm gadawud
16 vynghar am avr vyngharw mud
21 Pendefig gwledic gwlad hud is dwfn
22 ys divai a'm dysgud
23 pob meistrolrwydd a wyddud
24 poened vi er pan wyd vud
25 Neud twfn vy neigr nid divud vy llef
26 am vy llew cadarnddrud
27 nid diboen na'm atebud
28 nid hawdd ymadrawdd a mud
29 Gwae vi vod elw glod ai glud nyw ballai
30 heb allel dywedud
31 gwn oval dalm gan ovud
32 vyngwawr air mawr am wr mud
45 gwae vi ddwyn ail brwyn brenhinoedd lla[ ]
46 llywodraeth y bobloedd
47 lles tyrfa llias torfoedd
48 llawen gorawen gwyr oedd
33 Gwae vi Christ celi caled yw rhyvic
34 pand rhyvedd i'n cosbed
35 camp oeddem oll cynn colled
36 gwympo crair holl gampau cred
49 Gwae vi weled trwydded trwg
50 nai vaddai vilwr twr teg
51 a wnai'n oes vn yn ysig
52 ar llall do gwall yn duy gwag
37 [419] Gwae vi Christ Celi calon doll yw'r vau
38 wyf vyvyr o ddygyngoll
39 cwmpas eirf campus arvoll
40 cwympo Nudd y campae'n oll
41 gwae vy rhif rhoi darpar ar Dduw
42 ddwyn yn arglwydd cerddgar
43 nid rhodd gwyl neud rhwydd galar
44 nad rhydd ym gerydd am gar
77 dihareb yw honn diwyrir ymro
78 a laddo a leddir
79 diben o hynn a dybir
80 dibaid gwae a Duw boed gwir
93 A wnaeth aergae a gwae a gwall ir deau
94 e gaiff ddiwedd guall
95 a wnel drwg o dreigl angall
96 ar llaw ef ai hery'r llall
85 Nid dioval fyrfdal ffer
86 [ ]y gelyn a wnel galar
87 a laddo dyn ai loywddur
88 i luddias hoedl va leddir
89 Hoyw vrynn vlodeu diwyd adderyw
90 yn i ddiwedd gadernyd
91 llwyr yr aeth cyngaeth cyngyd
92 hayarn a chof barn {y} byd
65 Gwr oedd Lewelyn gwir ganv prudd
66 cynn rhoi pridd yw ddeutv
67 pwynt rhyvel heb ymgelu
68 penrhaith ar Ddyved vaith vu
105 [420]Lles bychan byan yw bod yn rhullvalch
106 ar hollvyd [v]al furf rhod
107 llew syberw llios wybod
108 llas ag arf glas gorf y glod
125 Gwael vyrn gwawl devyrn gwely davawd gwaith
126 gwaeth bellach vyvyrdawd
127 gwae'r cedyrn gwag ywrciwdawd
128 gwegry gwyr gwedy gwawr gwawt
81 Llithr ddagrau yw'r mav modd chweg[ ] allel
82 a chyllell vaeliereg
83 llawer och dost ar osteg
84 llathr {er}ddyrn lladd teyrn teg
129 Salw a thost am wr costvrith
130 {selerwin} bairdd drin beirdd dreth
131 cwmpas reddf campus roddvaeth
132 cwympo igyd campae byd byth
109 Llew olwg varchawg Llewelyn oth ladd
110 ith lys deg yn Emlyn
111 llai yw'r dysc medd llawer dyn
112 llavar ith ol llyvr ith ofyn
101 cyfiownder yw hyn cyviowndeb cerdd
102 cerddwriaeth ddoethineb
103 Cyweirdant bob cywirdeb
104 corf clod nid vn wybod neb
61 [421] Os marw vy ewythr ys mawr ryvig
62 a rifai Cymru vawr
63 nad oeddwn i nai diddawr
64 nad af yngwyllt Duw vyngwawr
121 wylais lle gwelais lle gwely v'arglwydd
122 pand oedd vowrglod hynny
123 gair ateb y gwr yty
124 gwr da doeth egor dy duy
53 Gwae'r nai a garai ac a deryery gweled
54 gwaelod cof am deffry
55 y llys vraith yn arlloes vry
56 ar llysdyn yn arlloesduy
57 llys gwin ac emys ddigamwedd
gyllid
58 och golli ai gwnaethoedd
59 llys naf avr lles niferoedd
60 llyw lles pe byw lles pawb oedd
97 Dall vydd dydd tywyll gwydd gwedy llygad
98 oedd yn Lloigr a chymry
99 dwg ith wledd ni'm gomeddy
100 dor gwyr da vreyr Duw vry
137 Girad a thost pawb a garo dadl
138 aed i Lann Dudoch heno
139 doethineb medd doeth yno
140 diwyd grair dan dwod gro
117 Och och yddol goch ddaly gwyl barchus
118 wedi dy berchen anwyl
119 och wedi'r ddwyoch ddwywyl
120 och pam nad och pwy nid wyl
113 Och am Lewelyn dyn doeth a ddodaf
114 och a vydd {ddyd} oi gyvoeth
115 och rwydd a roddaf dranoeth
116 och bevnydd i ddydd a ddoeth
Dauid ap Gwilim
Lewelyn ap Glm or Cryng[ ] Dyvet lwyth [ ]